Nant Gwrtheyrn i Eglwys Beuno Sant, Pistyll
Cewch ymgolli mewn chwedloniaeth a diwylliant...
Taith gerdded hawdd ag iddi olygfeydd rhyfeddol o afon Conwy ac un o gestyll canoloesol mwyaf mawreddog Cymru ar hyd y ffordd
Marina Conwy i Farina Deganwy
Mae dewis o un ai dechrau o faes parcio cyhoeddus y Beacons am ffi fach drwy'r dydd neu o dref Conwy ei hun gyda meysydd parcio talu ac arddangos cyhoeddus.
Gan ddechrau o faes parcio'r Beacons: crwydrwch drwy'r marina a stad o dai a chroesi dros bont, sydd â chefnffordd brysur yr A55 oddi tani.
Anghofiwch am synau'r ceir wrth i chi ddilyn arwyddion Llwybr Arfordir Cymru, gan fynd heibio Gwarchodfa Natur Leol Coed Bodlondeb.
Mwynhewch y golygfeydd panoramig dros Afon Conwy i'r ochr arall tuag at Ddeganwy, tref fechan sy'n nythu rhwng Llandudno Fictoraidd a Chonwy canoloesol a Thŵr Vaerdre, bryn amlwg gyda dau gopa creigiog.
Mae'r llwybr yn ymlwybro tuag at Gei Conwy gyda digon o goed yn darparu mannau cysgodol a meinciau ar hyd y ffordd. Mae'r cei yn cynnig cyfleoedd i grwydro heibio'r tŷ lleiaf ym Mhrydain, atyniad twristaidd poblogaidd iawn a chaer ganoloesol ysblennydd Castell Conwy sy'n safle Treftadaeth y Byd.
Gan adael y castell a'r cei y tu ôl i chi, cerddwch dros y bont tuag at Ddeganwy, gan wneud yn siŵr eich bod yn stopio ac yn edmygu golygfeydd panoramig Afon Conwy unwaith yn rhagor ond o'r ochr arall, yn edrych tuag at Gei a thref Conwy. Byddwch yn gweld lle rydych newydd gerdded – mae cael persbectif gwahanol wastad yn dda! Mae'r llwybr yma hefyd yn addas i feicio, yn ddelfrydol ar gyfer taith hawdd rhwng y ddwy dref.
Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru, Gruff Owen:
Lawrlwythwch taflen cerdded o Daith y Ddwy Farina o Conwy i Deganwy (PDF) a map taith cerdded (JPEG)