Gwyriadau dros dro
Rhestr ddiweddar o wyriadau dros dro cyfredol ar y llwybr
O bryd i’w gilydd mae angen dargyfeirio rhannau o Lwybr Arfordir Cymru dros dro – yn bennaf oherwydd rhesymau diogelwch y cyhoedd ar ôl tywydd garw, tirlithriadau neu waith adeiladu. Fodd bynnag, ein harwyddair yw, 'nid ydym byth ar gau' a dylai llwybr arall fod ar gael bob amser. Oes rhywbeth o’i le ar Lwybr Arfordir Cymru, gadwech i ni gwybod ar ein ffurflen Rhoi gwybod ar fater ymwneud a'r Llwybr
Gwynedd
5 Gorffennaf 2022 - Mae Pont yr Aber rhwng castell Caernarfon a pharc chwarae Caernarfon, sy’n groesfan dros Afon Seiont, ar gau o bryd i’w gilydd. Pan fydd hyn yn digwydd, dilynwch y llwybr amgen ar y map. Gallwch roi gwybod i Gyngor Gwynedd bod y bont ar gau
Ynys Môn
16 Mehefin 2021 - Moelfre: Cerddwyr wedi'u cyfeirio trwy Ystâd Nant Bychan ac ar hyd ffordd yr A5108 i mewn i Moelfre.
Castell-nedd Port Talbot
12 Mai 2023 The Quays - Mae'r llwybr ar gau er diogelwch, oherwydd bod llyncdyllau dwfn yn parhau i ffurfio ar hyd y llwybr tarmac wrth ymyl Afon Nedd. Sylwch fod glan yr afon ar y gogledd yn creu rhwystr ar y llwybr, yn y cyfeirnod grid SS731931. Dilynwch yr arwyddion dargyfeirio ar y map a ddarperir yn y tabl isod.
Abertawe
1 Tachwedd 2024. Yng nghoedwig Cwm Ivy, mae coed heintiedig yn cael eu torri, felly oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch mae'n rhaid dargyfeirio llwybr Llwybr Arfordir Cymru. Mae dau lwybr amgen y gellir eu dilyn sy’n defnyddio isffyrdd a llwybrau troed, yn dibynnu ar y llanw. Pan fo’r llanw ar drai, o'r gorllewin gallwch adael y ffordd a dilyn llwybr troed LM1A ac ymuno â CH17, yna ymuno â llwybr troed CH8. Pan fo’r llanw’n uchel, o'r gorllewin, dilynwch lwybr y penllanw cyfredol ar hyd y ffordd i Cheriton ac ymunwch â llwybr troed CH8 i barhau â'ch taith. Os byddwch yn dod o’r dwyrain, gwnewch y gwrthwyneb. Mae'r map dargyfeirio ar gael yn y tabl Gwyriadau Dros Dro. Mae’n werth gwirio amseroedd y llanw cyn i chi gynllunio eich llwybr.
Tabl o Gwyriadau Cyfredol
Awdurdod Lleol | Lleoliad | Rheswm | Map Gwyriad | Dyddiad |
---|---|---|---|---|
Abertawe | Bae Limeslade (o 24 Mis Medi 2024) | Iechyd a Diolgelwch | cy | tan 20-03-2025 |
Abertawe | Coedwig Cwm Ivy (Coed heintiedig yn syrthio) | Iechyd a Diolgelwch | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Abertawe | Cwm Ivy | Erydiad | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Caerdydd | Canolog Caerdydd | Iechyd a Diolgelwch | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Casnewydd | Y Bont Gludo | Amddiffyn rhag llifogydd | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Castell-nedd Port Talbot | The Quays | Llyncdyllau | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Ceredigion | Wallog llwybr 7-1 yn ago i Clarach | Iechyd a Diolgelwch | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Conwy | Bae Cinmel (St Asaph Avenue) | Amddiffyn rhag llifogydd | cy | tan 31-01-2025 |
Ddinbych | Rhyl glan y môr | Gwaith Amddiffyn Arfordirol | cy | tan 30-09-2025 |
Gaerfyrddin | Talacharn llwybr cyhoeddus 22/15 (wedi dechrau 4 Mis Medi 2024) | Gwaith gan Dŵr Cymru | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Morgannwg | Llanilltud Fawr llwybr troed rhif 3 a 58 | Cliff fall | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Sir Benfro | Amroth | Tirlithriad | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Sir Benfro | St Dogmaels y tu ôl i Stryd y Peilot o 1af Mis Hydref 2024 | Gwaith archwillo tir | cy | tan 31-10-2024 |
Ynys Mon | Moelfre | Ansefydlogrwydd tir | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Ynys Mon | St Cybi, Caergybi | Adnewyddu'r eglwys | cy | tan 30-04-2025 |
Diweddarwyd ddiwethaf 14 Tach 2024