Taith y Ddwy Farina: Conwy i Ddeganwy, Conwy
Taith gerdded hawdd ag iddi olygfeydd rhyfeddol...
Y lle perffaith i hela ffosilau deinosoriaid ynghyd â mynd am dro bywiog ar hyd brig y clogwyni gyda golygfeydd helaeth dros Fôr Hafren
Maes parcio traeth Llanilltud Fawr i faes parcio Nash Point
3 filltir neu 5 km
Gan ddechrau o draeth Llanilltud Fawr, lle poblogaidd i helwyr ffosil, mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd tua’r gorllewin ar hyd y clogwyni.
Mae eich lleoliad uchel yn cynnig golygfeydd ysblennydd ar draws Môr Hafren, tra bod y clogwyni a'r agennau calchfaen islaw yn hafan i adar y môr. Ar waelod y clogwyni ceir llawer o ogofâu wedi'u ffurfio gan y môr. Roedd yr ardal ar un adeg yn fan poblogaidd ar gyfer smyglo ac mae chwedl leol yn dweud bod llawer o'r ogofâu hyn wedi'u cysylltu gan dwneli dirgel. Ceir mwy o hanesion am ddrygioni ym Mae Tresilian creigiog, a honnwyd iddo fod yn safle tafarn a fynychwyd gan fôr-ladron a gwylliaid.
Ar ôl Bae Tresilian, mae'n werth mynd ar daith fer oddi ar Lwybr Arfordir Cymru i archwilio tir Eglwys Sain Dunwyd, sy’n cysgodi o dan furiau mawreddog Castell Sain Dunwyd. Mae'r castell yn dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif, ond cafodd enwogrwydd yn y 1920au pan gafodd ei brynu gan bennaeth papur newydd o’r Unol Daleithiau William Randolph Hearst, a ysbrydolodd ffilm glasurol Orson Welles, Citizen Kane. Diddanodd Hearst ystod o ymwelwyr enwog gan gynnwys Winston Churchill, Charlie Chaplin ac Errol Flynn.
Wrth ichi barhau i ben y daith, byddwch yn mynd heibio Goleudy Nash Point. Roedd mewn gwasanaeth am bron i 200 o flynyddoedd, ac roedd yn un o'r goleudai diwethaf gyda chriw i gael ei newid i weithredu’n awtomatig. Dewch i'r ganolfan ymwelwyr i ddarganfod mwy am hanes y goleudy ac i edmygu’r golygfeydd o ben y tŵr.
Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru, Tricia Cottnam
"Natur odidog copa’r graig sy’n darparu uchafbwynt y daith hon i gerddwyr. Nid yn unig y mae’r golygfeydd ar draws Môr Hafren yn eang, ond mae'r ddaeareg hefyd yn ddiddorol gyda chlogwyni yn llawn ffosilau a chyfrinachau'r gorffennol. Cadwch lygad am adar y môr, sy’n aml yn defnyddio'r clogwyni fel cartref".
Ceir meysydd parcio, toiledau a lluniaeth ar ddwy ben y daith.
Gallwch hefyd gysylltu'r dechrau a'r diwedd drwy ddal y gwasanaeth bws lleol 303 o Lanilltud Fawr (tua 2.5km o draeth Llanilltud Fawr) a Marcroes (tua 1.5km o Nash Point).
Gweler ar wefan gwasanaethau bws New Adventure Travel (NAT) i gweld amserlenni bysiau sy'n cwmpasu Caerdydd, Casnewydd, Abertawe, Bro Morgannwg a Phontypridd.
Os hoffech deithio ar y trên, mae gorsaf drenau yn Llanilltud Fawr.
Lawrlwythwch taflen cerdded Llanilltud Fawr i Nash Point (PDF) a map taith cerdded (JPEG)