Cil-y-coed a Sudbrook
Cyfle i fynd o dan bont Tywysog Cymru a mwynhau’r golygfeydd o gastell Cil-y-coed ar eich ffordd yn ôl
Mae terfyn deheuol y llwybr yn ymuno â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa
Paddy Dillon
Mae pen deheuol Llwybr Arfordir Cymru wrth ymyl dyfroedd llanwol afon Gwy yng Nghas-gwent, lle gallwch ddod o hyd i gelf a gwybodaeth ddathliadol a choffadwriaethol. Am daith gerdded fer hanesyddol, mae’n bosibl croesi pont haearn gyntaf y byd a dilyn Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa i’w ben deheuol wrth Glogwyn Sedbury, sy’n edrych dros ddyfroedd pictiwrésg afon Hafren, cyn dilyn yr un llwybr yn ôl i Gas-gwent.
Pellter: 5.3 milltir neu 8.5 cilomedr
Man cychwyn: Gorsaf Drenau Cas-gwent
Cyfeirnod grid y man cychwyn: ST 53641 93689
Disgrifiad what3words y man cychwyn: cofnodwn.affaith.disgrifiad
Parcio
Parcio yng Ngorsaf Drenau Cas-gwent, Nelson Street, Welsh Street, Castle Dell a lleoliadau eraill o amgylch y dref.
Bysiau
Mae gwasanaethau bws dyddiol yn cysylltu Cas-gwent â Chasnewydd a Bryste. Mae bysiau lleol yn gwasanaethu Sedbury, ac eithrio dydd Sul.
Trenau
Mae trenau CrossCountry a Thrafnidiaeth Cymru dyddiol yn gwasanaethu Cas-gwent o Gaerdydd, Cheltenham Spa a Birmingham.
Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX 'Chepstow to Sedbury and back' (Cas-gwent Sedbury)
1. Dechreuwch yng Ngorsaf Drenau Cas-gwent a dilynwch y ffordd oddi wrthi. Cerddwch yn syth trwy groesffordd i gyrraedd goleuadau traffig a throwch i'r chwith i fynd trwy isffordd o dan brif ffordd brysur. Dringwch y grisiau a throwch i'r dde i gerdded tuag at eglwys plwyf Cas-gwent, neu Eglwys Priordy'r Santes Fair. Sefydlwyd hon gan Urdd Sant Bened (y Benedictiaid) yn 1072. Cadwch i’r chwith o’r eglwys i gerdded i lawr llwybr concrit rhwng rheiliau haearn, sydd wedi’i arwyddo fel Llwybr Arfordir Cymru. Parhewch yn syth i lawr Lower Church Street i gyrraedd y Boat Inn a throwch i'r chwith i ddilyn glannau afon Gwy. Yma fe welwch flwch sain a bwrdd gwybodaeth, mainc dathlu degfed pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru, a chyfleoedd i dynnu lluniau, gan gynnwys mynegbost cyrchfannau, monolithau wedi'u gefeillio â Sir y Fflint yng Ngogledd Cymru, palmant ceramig, a sedd cerrig crynion. Gwyliwch am y morloi lleol enwog sy’n byw ger yr afon ac y gellir eu gweld yn aml wrth ymyl y bont. Mae gan yr afon un o'r amrediadau llanw uchaf yn y byd.
2. Croeswch bont fwa restredig Gradd 1 o haearn bwrw, dyddiedig 1816, sef adeg Rhaglywiaeth y cyfnod Sioraidd. Hen Bont Gwy yw’r enw ar yr adeiledd ond fe’i hadnabyddir hefyd yn lleol fel Pont y Dref neu Bont Cas-gwent. Mae Cas-gwent yng Nghymru (Sir Fynwy), ond yn Lloegr (Swydd Gaerloyw) y mae Tutshill, yr ochr arall i'r bont. Cerddwch yn syth i fyny lôn ddi-draffig serth a chul, gan ddilyn arwydd yn nodi ei bod yn arwain at Lwybr Clawdd Offa. Trowch i'r dde ar y cyfle cyntaf i ddilyn lôn gul ddi-draffig arall, lle mae Llwybr Clawdd Offa wedi'i nodi gan logos mes nodedig. Dilynwch hi heibio i dai sydd wedi'u cuddio y tu ôl i waliau cerrig uchel. Cyn gynted ag y bydd y ffordd yn gwastatáu, trowch i'r dde i lawr llwybr serth, cul a chaeedig. Mae hwn yn troelli ac yn mynd heibio gerddi tai cyn dringo yn ôl i ffordd.
3. Trowch i'r dde ar hyd y ffordd, yna i'r dde eto i lawr ffordd arall i Sedbury. Trowch i'r dde ar hyd Wyebank Avenue, i'r chwith ar gyffordd, yna i'r dde, yn dilyn arwydd Llwybr Clawdd Offa i lawr llwybr cul a chaeedig. Dewch allan ar lethr glaswelltog ychydig islaw Wyebank Road a cherdded yn gyfochrog â'r ffordd nes bod llwybr arall yn disgyn i'r dde. Pan fydd yn ymuno â ffordd fynediad, cadwch i'r chwith i'w dilyn. Codwch yn raddol a mynd heibio'r tai yn Offa’s Close a pharhau'n syth ymlaen ar hyd Mercian Way. (Mae’r ffordd yn dilyn llinell Clawdd Offa, ond does dim olion o’r hen wrthglawdd ar ôl.) Mae'r ffordd yn rhedeg i lawr yr allt ac yn troi i'r dde yn sydyn, felly trowch i'r chwith yn lle hynny ar hyd llwybr cul, caeedig arall.
4. Trowch i'r dde i lawr ffordd, yna croeswch bont droed ac ewch drwy giât mochyn. Croeswch wrthglawdd a dilynwch lwybr yn syth i fyny drwy gae, gan fynd drwy giât mochyn arall ar y brig. Croeswch ffordd, gan barhau i ddilyn arwyddion, ychydig i fyny ffordd fynediad fferm. Yn dilyn arwydd, trowch i'r dde drwy giât mochyn a cherddwch yn syth ymlaen yn ymyl cae. Ewch drwy giât mochyn arall a cherddwch yn syth ymlaen ar hyd crib glaswelltog Clawdd Offa wrth i'r arglawdd ddisgyn i gwm. Croeswch bont droed â giât a dringwch ychydig o risiau. Mae dringfa fer a serth yn arwain at glogfaen sy'n dwyn plac coffaol ar gyfer Llwybr Clawdd Offa, ar ben Clogwyni Sedbury.
5. Mae golygfa ar draws aber afon Hafren, sy'n cael ei rychwantu gan Bont Hafren. Dychmygwch droi rownd a dilyn Llwybr Clawdd Offa tua'r gogledd am 177 milltir (285 km) i Brestatyn ar arfordir gogleddol Cymru. Mae'r ardal gyfagos yn goediog iawn, ond cerddwch ychydig yn syth lawr y bryn i werthfawrogi'r llethr serth yr adeiladwyd y clawdd ar ei ben. Os gwnewch hyn, trowch i'r dde ar y gwaelod i ddychwelyd at y bont droed â giât.
6. Y cyfan sydd i’w wneud bellach yw olrhain eich llwybr yn ôl trwy Sedbury a Tutshill i ddychwelyd i Gas-gwent, gan ddilyn yr arwyddbyst a'r logos mes ar gyfer Llwybr Clawdd Offa. Fel arall, pan gyrhaeddir y ffordd gyntaf, trowch i'r chwith i gyrraedd lloches fws gerllaw. Gwasanaethir hon yn ddyddiol gan lond llaw o wasanaethau C4 Bws Casnewydd, ac eithrio dydd Sul.