Teithiau Cerdded Cylchol
Casgliad ardderchog o deithiau cerdded cylchol ar hyd yr arfordir
Mae taith gerdded gylchol yn ffordd ardderchog o ddarganfod arfordir Cymru a gweld golygfeydd llawn ysbrydoliaeth ac mae’n rhoi gwedd newydd ar y wlad i chi, heb i chi orfod troi’n ôl neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Yn aml, mae’r llwybrau’n mynd heibio trefi, pentrefi a mannau o ddiddordeb ar yr arfordir na fyddech efallai’n eu gweld wrth gerdded y prif lwybr.
Mewn partneriaeth â’n swyddogion lleol mae Paddy Dillon, yr awdur teithio profiadol, wedi datblygu casgliad newydd o deithiau cerdded cylchol sy’n defnyddio hawliau tramwy cyhoeddus cyfredol, llwybrau a ffyrdd mewn rhannau dethol o Gymru. Fel arfer nid ydynt wedi cael eu harwyddo ond bydd y cyfarwyddiadau manwl a geir yma a’r ffeiliau GPX yn caniatáu ichi ganfod y ffordd.
Mae detholiad hefyd ar gael ar wefan yr Arolwg Ordnans. Bydd angen i chi greu cyfrif OS, am ddim, i weld y teithiau cerdded hyn. Ar ôl gwneud hyn, byddwch yn gallu gweld y llwybrau ar fap rhyngweithiol, proffil y llwybr a byddwch yn gallu allforio ffeil GPX i'ch dyfais GPS eich hun ar gyfer pob taith gerdded.
Mae’r teithlennau hefyd yn rhoi manylion cludiant cyhoeddus, mannau o ddiddordeb a lletygarwch. Gallwch hefyd gynllunio eich siwrnai gan ddefnyddio Traveline Cymru, gwasanaeth gwybodaeth cludiant cyhoeddus yng Nghymru.
Dyma rai llwybrau cerdded cylchol eraill oddi ar Lwybr Arfordir Cymru:
- Mae Teithiau cerdded cylchol Parc Cenedlaethol Penfro yn gasgliad sylweddol ac amrywiol o deithiau cerdded cylchol sy’n addas i bob gallu, o’r heriol i’r hamddenol.
- Beth am ddarganfod teithiau cerdded cylchol Ynys Môn ac archwilio’r arfordir eiconig.
- Cafodd teithiau cerdded cylchol Ceredigion eu datblygu i ddathlu 15 mlynedd ers i’r rhan hon gael ei hagor yn swyddogol.
- Mae gan ran Gwynedd o Lwybr Arfordir Cymru gyfres wedi’i harwyddo o deithiau cerdded cylchol, sy’n gyfle i werthfawrogi natur, treftadaeth a diwylliant yr ardal.
- Mae teithiau cerdded cylchol Bro Morgannwg Llwybrau Fro yn cynnig profiad arbennig i breswylwyr ac ymwelwyr o’r arfordir treftadaeth hwn.
- Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am leoliadau arfordirol eiconig ac wedi datblygu cyfres o deithiau cerdded cylchol arfordirol hardd ar eu tir.
Archwiliwch dirnodau arfordirol adnabyddus â’u golygfeydd o’r mynyddoedd
Archwiliwch fan sy’n gyforiog o fywyd gwyllt ac yn llawn olion gorffennol diwydiannol yr ardal
Archwiliwch amrywiaeth o dirweddau ar y rhan dawel hon o'r llwybr
Archwiliwch ben pellaf deheuol y llwybr sy'n edrych dros Aber Afon Hafren a throsodd i Loegr
Archwiliwch hen dir diwydiannol diffaith a gafodd ei drawsnewid yn Warchodfa Natur Genedlaethol a Gwastadeddau Gwent a’u golygfeydd
Cyfunwch olygfeydd o'r aber â thraeth gogoneddus Pentywyn.
Dewch i fwynhau’r baeau mwyaf prydferth ar hyd arfordir Cymru
Ewch am dro wrth fwynhau gwylio prysurdeb y ddinas