Pethau i’w gwneud - Bae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr
Nid cerdded yw’r unig beth y gallwch ei wneud....
Tricia Cottnam yn disgrifio amrywiaeth aruthrol arfordir De Cymru a sut y bydd cerdded ar ei hyd a’i fwynhau yn eich hudo’n llwyr
Helo, fy enw i yw Tricia Cottnam a fi yw Swyddog Llwybr Arfordir Cymru ar gyfer arfordir y De, o Benrhyn Gŵyr i Gas-gwent yn Sir Fynwy.
Dwi wedi bod yn ymwneud â Llwybr Arfordir Cymru yn achlysurol ers 2007; yn gyntaf drwy ddatblygu rhannau'r llwybr sy’n mynd drwy Gaerdydd a Bro Morgannwg hyd at agoriad swyddogol y llwybr ym mis Mai 2012, cyn cael contract byr fel Swyddog Llwybr Arfordir Cymru (Ogwr i Gas-gwent). Wedi hynny, cefais i’r gwaith o lunio a chynhyrchu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyngor Caerdydd 2020-30. A nawr, dwi wedi dod yn ôl i’r man cychwyn ac yn gweithio ar Llwybr Arfordir Cymru unwaith eto.
Dwi'n ffodus fy mod i’n byw’n wrth arfordir Cymru a dwi’n treulio fy ngwyliau fel arfer yn agos at Lwybr Arfordir Cymru; dwi’n mwynhau'r golygfeydd arfordirol hyfryd ar Ynys Môn ac yn Sir Benfro. Fy uchelgais yn y pen draw yw cerdded Llwybr Arfordir Cymru i gyd!
Wrth gwrs, Dw i wrth fy modd gyda rhan ddeheuol Llwybr Arfordir Cymru. Dwi wrth fy modd gyda rhan ddeheuol Llwybr Arfordir Cymru! Mae'n llawn trysorau fel Penrhyn Gŵyr gyda'i draethau hardd yn Rhosili ac Oxwich a golygfeydd gwych o'r clogwyni ym Mhwll Du a Phen y Mwmbwls. Mae'r traeth hyfryd yn Aberafan, llwybr ucheldirol amgen drwy Margam gyda golygfeydd gwych, tref glan môr boblogaidd Porthcawl, harddwch diarffordd twyni Merthyr Mawr, yr Arfordir Treftadaeth gyda'i glogwyni Jwrasig ac Aberogwr a Southerndown – dwy ardal adnabyddus. Yna, mae Penarth a'i Bier, prysurdeb Bae Caerdydd, bywyd gwyllt diddorol Gwlyptiroedd Casnewydd, gweld y ddwy bont dros yr Hafren (ac o dan bont Tywysog Cymru), hanes hynafol a modern Sudbrook a thref farchnad Cas-gwent. Wrth gwrs, efallai fy mod i’n tueddu at rai ardaloedd yn fwy nag eraill ...!
Dwi'n falch o fod wedi gweithio ar Lwybr Arfordir Cymru ers y dechrau a dwi'n falch o'r gwaith caled y mae timau Hawliau Tramwy Cyhoeddus yr Awdurdodau Lleol (7 yn fy ardal i) wedi'i wneud i gadw Llwybr Arfordir Cymru ar agor ac mewn cyflwr da – er gwaethaf sefyllfaoedd heriol fel erydiad arfordirol, difrod gan stormydd a gorfod rheoli gwrthdaro. Hebddyn nhw, fydden ni ddim wedi gallu cysylltu rhannau gwahanol Llwybr Arfordir Cymru.
Dwi'n mwynhau darganfod y rhan hon o'r llwybr - dod i'w hadnabod yn y fath fanylder fydd yw fy llwyddiant mwyaf a dwi'n edrych ymlaen at ddarganfod mwy am y rhan yma. Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau Llwybr Arfordir Cymru hefyd!
Gallwch gysylltu â mi gydag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau sy’n ymwneud â Llwybr Arfordir Cymru drwy glicio ar Cysylltu â ni i anfon e-bost atom.