Bae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr
Mwynhewch amrywiaeth o fflora a ffawna ar y darn hwn o arfordir, ac archwiliwch y trefi hanesyddol â’u golygfeydd godidog ar y ffordd
Ger y bae ceir Parc Gwledig Pen-bre - 500 erw o goedwigoedd a pharciau sy’n arwain at harbwr bychan Porth Tywyn. Uchafbwynt arall yw arfordir anhygoel Penrhyn Gŵyr, a’i draethau euraidd enwog. Ceir 10 gwarchodfa natur, 24 gwarchodfa Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, 32 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, a 5 Ardal Gadwraeth Arbennig o fewn yr ardal.
Tricia Cottnam yn disgrifio amrywiaeth aruthrol arfordir De Cymru a sut y bydd cerdded ar ei hyd a’i fwynhau yn eich hudo’n llwyr.
Nid cerdded yw’r unig beth y gallwch ei wneud. Yn ogystal â’r llu o gyfleoedd i gerdded y soniwn amdanynt yn yr adran Crwydro Llwybr yr Arfordir, mae llawer o bethau eraill i’w gweld a’u gwneud ar hyd y Llwybr.
Dyma rai o'n hoff deithiau cerdded ac argymhellion sy'n dangos y gorau o arfordir Cymru
Mae’n hawdd cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru drwy ddefnyddio cludiant cyhoeddus ac mae modd cyrraedd sawl rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.