Cestyll, Capeli ac Eglwysi
Mae Cymru’n enwog am gestyll rif y gwlith, ond...
Bu crefftwyr balch a medrus yn chwarae rhan amlwg ym mywyd Cymru ar hyd y canrifoedd. Mae rhai crefftau traddodiadol yn dal i ffynnu heddiw dan law pobl sy’n cael eu hysbrydoli gan harddwch a hanes y wlad a’r defnyddiau crai naturiol sydd ar gael iddynt
Mae’r amrywiaeth yn ddibendraw gyda rhywbeth at ddant pawb ond dyma 10 awgrym i’ch rhoi ar ben y ffordd.
Mae’r Academi Frenhinol Gymreig yng Nghonwy yn cynnal naw arddangosfa dros dro y flwyddyn. Mae ganddynt raglen addysg fywiog a cheir cyfle i weld gwaith yr artistiaid gorau ym maes celfyddyd gain yng Nghymru.
Yng nghanolfan gelfyddydau a threftadaeth Oriel Ynys Môn ger Llangefni, cewch weld gwaith yr artistiaid Kyffin Williams a Charles F. Tunnicliffe. Mae yno oriel sy’n cyflwyno hanes yr ynys hefyd.
Ym mis Medi, cewch ddilyn yr Helfa Gelf sy’n eich arwain i stiwdios dros gant o artistiaid, o arlunwyr i grochenwyr, lle cewch sgwrsio â nhw am eu gwaith a’r hyn sy’n eu hysbrydoli.
Yn yr hen ddyddiau, Dyffryn Teifi yn ne Ceredigion oedd canolbwynt diwydiant gwlân llewyrchus Cymru. Cewch gyfle i weld o gwmpas melin wlân Curlew Weavers yn Rhydlewis. Mae yno siop grefftau fawr a maes picnic – gellir trefnu i weld y gweithwyr wrth eu gwaith.
Cyfle i weld un o drysorau Cymru – tapestri 30 metr o hyd sy’n hongian yn Llyfrgell Abergwaun. Cafodd ei greu i nodi daucanmlwyddiant y tro diwethaf i fyddin Ffrainc ymosod ar dir mawr Prydain, ym mis Chwefror 1797. Neu cewch grwydroOriel y Parc, lle ceir dehongliadau artistiaid o statws byd-eang o’r dirwedd. Daw’r darnau o gasgliadau helaeth Amgueddfa Cymru ac mae mynediad am ddim.
Yn y Boathouse yn Nhalacharn y bu Dylan Thomas yn byw am bedair blynedd olaf ei fywyd. Yma yr ysgrifennodd Under Milk Wood a gweithiau eraill. Erbyn hyn mae’n ganolfan dreftadaeth.
Cyfle i ddathlu hen draddodiad Cymreig. Mae’r Lovespoon Gallery yn y Mwmbwls yn mynd â ni ar daith gariadus, gyda channoedd o gynlluniau traddodiadol.
Traethau Penrhyn Gŵyr a ysbrydolodd The Ultimate Drifter, sef busnes crefftau sy’n creu pethau unigryw o froc môr – ceir yma ddrychau, lampau a chant a mil o bethau hardd a defnyddiol eraill.
Ynghanol Bae Caerdydd mae oriel Crefft yn y Bae sy’n arbenigo mewn crefftau a wnaed yng Nghymru. Urdd Gwneuthurwyr Cymru sy’n ei rhedeg. Mae dros 70 o wneuthurwyr yn aelodau o’r oriel ac mae un ohonynt yn gweithio yno bob dydd.
Pan gododd un o drigolion cyfoethog Penarth, ger Caerdydd, oriel newydd yn 1888, roedd yn awyddus iddi agor ar ddydd Sul er mwyn denu cynifer o bobl ag oedd modd. Felly, dechreuwyd galw Oriel Tŷ Turner yn ‘Oriel Dydd Sul’. Erbyn heddiw, mae’n cynnig rhaglen amrywiol o gelfyddyd teithio a chelfyddyd leol.