Llwybrau beicio cyfagos
Gan nad yw’r rhan fwyaf o lwybr yr arfordir yn addas i feicwyr, dyma rai llwybrau beicio sy’n rhoi cyfle i feicwyr archwilio’r arfordir a’r cefn gwlad gerllaw.
Yma cewch wybodaeth am y rhannau o Lwybr Arfordir Cymru sy’n addas i feicwyr ar hyd Arfordir y Gogledd ac yn ardal aber Afon Dyfrdwy
Am ran helaeth o’r ffordd o Gaer i Fangor, mae modd beicio ar hyd Llwybr Arfordir Cymru gan ei fod yn rhannu llwybr â’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mewn mannau lle mae’n amhosibl beicio ar y Llwybr ei hun, gall beicwyr deithio ar hyd llwybrau eraill. Mae arwyddion i’w cael ar gyfer y llwybrau eraill yma, lle caiff logo’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ei arddangos yn hytrach na logo Llwybr Arfordir Cymru. Ceir manylion am y rhannau o Lwybr Arfordir Cymru sy’n addas i feicwyr ar hyd arfordir y Gogledd yn y fan yma.
Dyma lwybr gwastad a phoblogaidd ar hyd Afon Dyfrdwy, rhwng Caer ar yr ochr arall i’r ffin (man cychwyn swyddogol Llwybr Arfordir Cymru) a glan yr afon yng Ngwepre, Cei Connah. Ac eithrio ambell lecyn bach rhwng Queensferry a Chei Connah, mae Llwybr Arfordir Cymru a’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhannu’r un llwybr.
Pellter: 6.5 milltir / 10 cilometr
Rhif Llwybr y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol: 89 a 5
Tir: Gwastad, dim traffig, llwybr tarmac i gyd.
Taflenni a Mapiau: Sustrans Dwyrain Sir y Fflint
Mae rhagor o wybodaeth ar gael amdan taith becio Caer i Cei Connah ar y wefan Cycling North Wales.
Ar y cyfan mae Llwybr Arfordir Cymru a’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhannu’r un llwybr ar draws Sir Ddinbych a Chonwy, gan gysylltu prif drefi gogledd Cymru (Prestatyn, Y Rhyl, Bae Colwyn a Llandudno) a thref gaerog Conwy. Fodd bynnag, mae Llwybr Arfordir Cymru a’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn dilyn trywydd gwahanol mewn ambell fan. Lle digwydd hyn, dylai beicwyr ddilyn logo’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn hytrach na logo Llwybr Arfordir Cymru. Dyma lwybr poblogaidd iawn, gyda golygfeydd godidog tua’r môr, ar hyd yr arfordir a thua’r tir i gyfeiriad Bryniau Clwyd, Dyffryn Clwyd a llethrau gogleddol Parc Cenedlaethol Eryri.
Pellter:
Rhif Llwybr y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol: 5
Tir: Tarmac; gwastad yn bennaf, ac eithrio ambell lethr serth a byr lle gellir gwthio’r beiciau. Dim traffig o gwbl, ac eithrio rhannau byr iawn ar ffyrdd, lle gellir gwthio’r beiciau ar y palmentydd.
Taflenni a Mapiau:
Mae rhagor o wybodaeth ar gael amdan Llwybr Beicio Arfordir Gogledd Cymru ar y wefan Cycling North Wales.
Ar wely trac yr hen reilffordd rhwng Bangor a Chaernarfon (a gaewyd i deithwyr yn 1970) y mae’r rhan yma o Lwybr Arfordir Cymru yn bennaf. Mae’n dilyn Y Fenai, ac o’r herwydd ceir golygfeydd godidog o Ynys Môn. Mae’n rhan fechan o Lôn Las Cymru, sef y llwybr beicio cenedlaethol 261 milltir/420 cilometr o hyd rhwng Caergybi a Chaerdydd.
Pellter: 4 milltir
Rhif y Llwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol: 8
Tir: Gwastad, dim traffig, llwybr tarmac i gyd, ac eithrio ambell lecyn bach sydd ar y ffordd er mwyn mynd i ganol trefi.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael amdan taith beicio o Felinheli i Caernarfon ar y wefan Cycling North Wales.