Ail-lenwch eich potel ddŵr ar y ffordd
Defnyddiwch yr ap Refill i ganfod dŵr yfed ar...
Lawrlwythwch neu archebwch ein taflenni llwybr
Mae gennyn ni wyth taflen liw ddwyieithog ar gyfer pob rhanbarth o'r llwybr i roi syniad i chi o beth i'w ddisgwyl ac i'ch helpu i gynllunio eich ymweliad.
Ceir gwybodaeth ddefnyddiol a lleol i wneud y gorau o'ch ymweliad fel:
• awgrymiadau am deithiau cerdded
• uchafbwyntiau ar hyd y ffordd
• awgrymiadau i’w gwneud yn haws cerdded y llwybr
• map yn dangos lleoliadau stopio a dechrau allweddol a’r gorsafoedd trenau agosaf at y llwybr
• delweddau ysbrydoledig o arfordir Cymru
• rhestr dicio o leoedd ar hyd y llwybr – delfrydol i gofnodi pryd a ble rydych chi wedi bod.
Cadwch lygad am ein taflenni mewn amrywiaeth o siopau ledled Cymru gan gynnwys Canolfannau Croeso, atyniadau twristiaeth allweddol, canolfannau trafnidiaeth a darparwyr llety.
Mae gan bob taflen adran basbort lle rhennir y rhanbarth cyfan yn rhestr o deithiau cerdded llai o 4 neu 5 milltir rhwng trefi a phentrefi (yn bennaf). Dyma eich cofnod chi o pryd a ble rydych chi wedi ymweld. Gallwch chi deipio neu ysgrifennu’r dyddiad cwblhau a'i dicio oddi ar eich rhestr gyda balchder neu a'i chadw ar eich wal i gynllunio eich taith nesaf!
Gallwch chi gael gafael ar ein taflenni heb adael eich cartref. Gellir eu lawrlwytho mewn fformat dogfen gludadwy (pdf). Bydd angen Adobe Acrobat Reader arnoch chi i'w gweld. Gallwch deipio’r dyddiad cwblhau yn ogystal â rhoi tic yn y blwch ar y sgrin.
Lawrlwytho taflen Arfordir Gogledd Cymru ac Aber Afon Dyfrdwy (1.74 MB) - sy'n cwmpasu’r ardal o ffin dinas Rufeinig Caer yn Lloegr ar hyd yr arfordir i Fangor, dinas brifysgol brysur.
Lawrlwytho taflen Ynys Môn (2.31 MB) – cerddwch o amgylch y cylch hwn i gael profiad cerdded unigryw.
Lawrlwytho taflen arfordir Llŷn ac Eryri (4.08 MB) – dewch i ddarganfod golygfeydd arfordirol a mynyddig trawiadol ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri.
Lawrlwytho taflen Ceredigion (2.17 MB) – paradwys poblogaidd i gerddwyr gyda golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion.
Lawrlwytho taflen Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro (1.93 MB) – rhan o unig barc cenedlaethol arfordirol y DU sy'n cynnig golygfeydd arfordirol anhygoel
Lawrlwytho taflen Sir Gaerfyrddin (2.45 MB) – adran amrywiol gydag aberoedd troellog a chartref y dramodydd enwog Dylan Thomas.
Lawrlwytho taflen Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe (2.14 MB) - sy'n boblogaidd gydag ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd gyda thraethau ac arfordir byd-enwog i'w crwydro.
Lawrlwytho taflen arfordir de Cymru ac Aber Afon Hafren (2.37 MB) – cewch fwynhau amrywiaeth arfordir Cymru gyda golygfeydd o arfordir Lloegr.
Mae ein taflenni ar-lein yn hygyrch ar y we, sy'n golygu y gall y testun gael ei ddarllen yn uchel gyda meddalwedd testun-i-lais. Gallwch wrando ar y testun yn cael ei ddarllen yn Gymraeg neu Saesneg. Mae’r RNIB (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall) yn darparu lleisiau testun-i-lais Cymraeg sy'n swnio'n naturiol ac sydd ar gael ar gyfer systemau Windows yn unig. Mae fersiynau acenion Cymraeg ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gofynnwch am y lleisiau yng ngwefan yr RNIB
Gall siopau archebu ein holl daflenni yn rhad ac am ddim drwy gwefan ivisitinfo.com Chwiliwch am dan "Wales Coast Path" yn bar chwilio. Gallwch archebu o un daflen hyd at flwch (gyda 450 o daflenni ym mhob blwch) i gyd-fynd â'ch anghenion. Mae pob taflen liw yn mesur DL 220 mm x 110 mm neu 22 cm x 11 cm.