Taith Llyffant y Twyni, Sir Fflint
Dewch wyneb yn wyneb â natur trwy ddilyn galwadau...
Mwynhewch olygfeydd panoramig o arfordir gogledd Cymru ar hyd rhan fewndirol y llwybr hwn
Mae'r daith gerdded hon yn dilyn rhan fewndirol Llwybr Arfordir Cymru dros Fynydd y Dref, drwy dirwedd sy'n gyforiog o hanes a threftadaeth. Mae hwn yn ddewis amgen gwych i'r llwybr swyddogol gyda man ffafriol i weld golygfeydd panoramig draw i Ynys Môn a Môr Iwerddon.
Gan ddechrau o Safle Treftadaeth y Byd Conwy, gyda'i chastell trawiadol o'r 12fed ganrif a’i muriau tref, mae'r llwybr yn mynd ar hyd y cei cyn troi oddi ar yr arfordir ac anelu i fyny. Yn ystod yr haf, mae'r mynydd wedi’i orchuddio â grug porffor gyda brychni o eithin melyn llachar. Beth bynnag yw'r tymor, byddwch yn mwynhau golygfeydd ysblennydd ar draws Gogledd Cymru.
Edrychwch tua'r dwyrain ar hyd yr arfordir ac fe welwch bentir Pen y Gogarth uwchben Llandudno, tra bod Ynys Môn i'r gorllewin. Trowch i'r mewndir i gymryd golwg ar odre Dyffryn Conwy ar fryniau mynyddoedd y Carneddau (cadwch lygad allan am ferlod gwyllt y Carneddau). Mae gan y cerrig ar y daith gerdded hon lawer o straeon i'w hadrodd. Mae taith fer o'r llwybr yn mynd â chi i adfeilion bryngaer trawiadol o Oes yr Haearn, un o’r nifer o safleoedd hynafol sydd i'w gweld yma.
Yn agos at y llwybr uwchben Penmaenmawr, byddwch yn gweld cylch o tua 30 o gerrig sydd wedi sefyll ar y llecyn hwn am tua 5,000 o flynyddoedd, ynghyd ag olion 'ffatri fwyeill' Oes y Cerrig lle’r arferai ein cyndeidiau greu arfau.
Yn olaf, byddwch yn troi i lawr i gyrchfan Fictoraidd fach, Llanfairfechan, gan fwynhau golygfeydd ysblennydd ar draws Afon Menai wrth i chi fynd. Os hoffech barhau i gerdded pan fyddwch chi'n cyrraedd, ewch ar brif Lwybr Arfordir Cymru yn ôl i Gonwy.