Cerdded Twyni Tywod
Ymlaciwch yn nhwyni tywod Cymru
Ymunwch â Derek Brockway ar daith hyd Arfordir Cymru
O ystyried pandemig y Coronafeirws (COVID-19) ar hyn o bryd, rydyn ni’n annog ein holl ymwelwyr i osgoi unrhyw deithio nad yw'n hanfodol ac i ddilyn canllawiau COVID-19 Llywodraeth Cymru i gyfyngu ar ledaeniad y firws.
Yn y cyfamser, beth am nodi ein teithiau cerdded ar gyfer y dyfodol a mwynhau rhyddid llwybr yr arfordir pan fydd yr amser yn iawn.
Yn ei gyfres The Welsh Coast, mae Derek Brockway, hoff gyflwynydd tywydd Cymru, a’i fryd ar gyrraedd rhai o fannau mwyaf bendigedig arfordir Cymru. Gan gerdded hyd Lwybr Arfordir Cymru, mae'n clymu ei esgidiau cerdded ac yn cwrdd â chymunedau difyr yr arfordir ac yn gweld rhai o olygfeydd arfordirol gorau’r DU.
Bydd yn dysgu am ddiwylliant a threftadaeth unigryw Cymru, gan drafod cestyll arfordirol, goleudai mawreddog, hen draddodiadau pysgota afon Hafren, a llawer mwy.
Ewch i wefan y BBC i gael mapiau y gellir eu lawrlwytho a gwybodaeth am lwybrau i'w dilyn yn ôl troed Derek.