Aberporth i Tresaith, Ceredigion
Dyma daith gerdded fer i'r teulu gyda rhan ohoni...
Gall plant ddod wyneb yn wyneb â natur ar y daith hon (sy'n rhannol addas ar gyfer cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn) ac mae toiledau a chaffi cyfagos
Y maes parcio talu ac arddangos yng ngwaelod Ffordd yr Orsaf, ger tafarn y Lighthouse. Mae’r Parlwr Du yn codi am barcio yn y Dafarn.
Ceir mwy o feysydd parcio Talu ac Arddangos ar ddiwedd ffordd Gamfa Wen y tu ôl i’r Ganolfan Gymunedol.
2.5 milltir neu 4 km
Ar ddiwedd Ffordd yr Orsaf dringwch i ben yr arglawdd. Dilynwch y llwybr i’r dde sydd wedi ei arwyddo’n glir â marcwyr oren ‘Llwybr Cylchol Y Parlwr Du’. Mae’r llwybr yn syth ac yn llydan a cheir cerrig mân ar yr arwyneb i ddechrau. Ceir paneli gwybodaeth, meinciau picnic a cherfluniau ar y llwybr.
Ar ôl 0.6 milltir mae’r cerrig mân yn gorffen ac mae’r llwybr tarmac yn dechrau ac yma ceir cyfleoedd i wylio adar yng nghuddfan adar RSPB, golygfeydd o’r aber a thirnodau diwydiannol.
Gadewch y pwll glo a mynd drwy’r rhwystr ffrâm A, gan ddilyn yr arwyddion oren a throi i’r dde a dilyn llwybr glaswellt gyferbyn â lein y trên nes y byddwch yn gweld marcwyr eto ar y ffordd. Croeswch y gylchfan ac ewch heibio ‘Canolfan Pentre Peryglon’. Mae’r llwybr yn ôl i’r maes parcio ar hyd Ffordd yr Orsaf.
Gruff Owen, Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru:
"Taith gerdded addas i deuluoedd sy’n ardderchog i bramiau ysgafn ac sy’n rhywle lle gall y plant archwilio ac agosáu at natur".
Lawrlwythwch taflen cerdded Taith Gylchol y Parlwr Du (PDF) a map taith cerdded (JPEG)