Bae Caerdydd
Gwelwch y dociau fel yr oeddent yn y profiad realiti...
Ewch ar daith yn ôl mewn amser i gychwyn y fan hon fel cyrchfan i dwristiaid mewn ffilm 3D
4 Mawrth 2024
Ar hyn o bryd mae'r llwybr rhwng Coppet Hall a Wiseman's Bridge ar gau am y tro oherwydd tirlithriad sy'n effeithio ar yr ardal. Mae gwyriad ar waith dros dro - chwiliwch am Sir Benfro "Coppet Hall i Wiseman's Bridge" yn y tabl i weld map o’r gwyriad.
Saundersfoot, Sir Benfro
Lawrlwythwch ap Llwybr Arfordir Cymru er mwyn profi’r ardal mewn Realiti Estynedig.
Dechreuwch eich taith yn mhaes parcio harbwr Saundersfoot a gorffen eich taith yn Wiseman’s Bridge. Mae lleoliad y panel sydd ar gael ar Google Maps.
Llwybr cerdded: 1km / 0.75 milltir (o Saundersfoot i Wiseman’s Bridge)
Taith gerdded estynedig: 1 km / 0.75 filltir o Wiseman’s Bridge i Amroth
"Mae’r rhan arbennig hon o Lwybr Arfordir Cymru llawn hanes. Byddwch yn cerdded ar hen lein reilffordd drwy dwneli bychain".
Lein reilffordd, grym ceffyl yn wreiddiol, oedd yma, felly nid oes graddiant amlwg ac mae’n addas ar gyfer pramiau. Mae’r darn o Coppit Hall i Wiseman’s Bridge, pentrefyn bach â thraeth creigiog, yn darparu golygfeydd di-dor dros Fae Saundersfoot.
Beth am ddechrau trwy brofi Realiti Estynedig gan ddefnyddio’ch dyfais symudol (ffôn clyfar neu dabled) gyda phanel Llwybr Arfordir Cymru sydd yn y maes parcio o flaen strwythur melyn Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI).
Ewch i’r gogledd tuag at Wiseman’s Bridge, pentrefyn arfordirol lle mae cyfleusterau ar gael a bws gwasanaeth rhif 381 nôl i Saundersfoot pe byddech ei angen ((mae holl amserlenni bws yr ardal hon ar wefan Cyngor Sir Penfro).
Os hoffech fynd yn bellach, gallech barhau i Amroth, pentref glan môr. Neu gallech ymestyn eich taith mewn cyfeiriad arall trwy ymweld â Gweithfeydd Haearn Stepaside, taith wastad a byr (4km / 2 filltir) sy’n addas ar gyfer pob oed.
Arhoswch i drochi’ch traed neu nofio tra’n mwynhau’r golygfeydd ar draws harbwr Saundersfoot.
Ewch i'n tudalen Cynlluniwch'ch ymweliad sydd â gwybodaeth ddefnyddiol ar drafnidiaeth gyhoeddus a map rhyngweithiol i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad.