O’r Felinheli i Gaernarfon (Photo Trails)
Llwybr cwbl hygyrch ar lwybr beicio sy’n dilyn...
Taith gerdded drwy goetir cysgodol ar hyd llwybr coediog neu lwybr pren gyda golygfeydd o’r Fenai a phont Britannia
Llwybr llinol sy’n dilyn Llwybr Arfordir Cymru yng Ngogledd Cymru, sy’n mynd heibio Gardd Fotaneg Treborth (sydd yng ngofal Prifysgol Bangor), coetir, golygfeydd o'r Fenai a Phont Britannia cyn gorffen ar Ystad y Faenol sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Gallwch ymestyn y daith gerdded hon drwy ei chyfuno â thaith gerdded Felinheli i Gaernarfon i’w gwneud yn daith gerdded 11 milltir neu 18 cilometr o hyd rhwng Gardd Fotaneg Treborth a Chaernarfon. Gallwch wneud hyn drwy barhau ar hyd y llwybr o Ystad y Faenol a dilyn arwyddion Llwybr Arfordir Cymru i gyfeiriad y Felinheli. Mae'r llwybr rhwng Ystad y Faenol a'r Felinheli yn dilyn trac garw sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer mynediad preifat i gerbydau a gall fynd yn fwdlyd ac anwastad mewn tywydd gwlyb.
Gallwch ddilyn llwybr cylchol byrrach hefyd trwy ddilyn Llwybr Arfordir Cymru am 0.6 milltir neu 1 cilomedr ac yna dringo’n raddol i'r gerddi botaneg.
Lawrlwythwch y deithlen (856KB, PDF) i fynd gyda chi ar eich taith gerdded. Sylwer – mae’r ddogfen hon ar gyfer dibenion esboniadol ac nid ar ar gyfer llywio yn unig.
Gwelwch y map ar-lein (yn agor gwefan Photo Trails). Mae Experience Community wedi mapio llwybr hirach o’r Felinheli i Ardd Fotaneg Treborth, gydag Ystâd y Faenol tua hanner ffordd ar hyd y daith. Mae’r map hwn ar-lein yn cynnwys ffotograffau mewn mannau arwyddocaol ar hyd y llwybr, ac yn cynnig disgrifiadau manwl o’r llwybr, gan gynnwys lleoliadau canllawiau, meinciau i orffwys arnynt, a graddiant y llwybr.
Rydym yn argymell fod gennych fap papur bob amser wrth gefn yn ogystal ag ap mapio ar eich ffôn symudol os nad ydych yn gyfarwydd â’r rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru.
Dechrau : Gardd Fotaneg Treborth, Bangor
Gorffen : Stad y Faenol (y tirnod agosaf ar fap yw “Boathouse Covert”)
Pellter: Mae'r llwybr llinol yn 3 cilomedr neu 2 milltir (yno ac yn ôl)
Amser: Caniatewch 2 i 3 awr
Wyneb: Cerrig cywasgedig gydag arwyneb rhydd mewn rhai mannau. Rhywfaint o dir anwastad.
Llethrau: Mae gan y llwybr rai llethrau a chambr serth mewn rhai mannau ac efallai y bydd angen cymorth ar rai defnyddwyr.
Proffil y Llwybr: Gallwch weld o broffil y llwybr faint y bydd rhaid ichi ddringo, a’r man uchaf ar y llwybr. Dim mwy na 30m o waith dringo.
Lled y Llwybr: 1.5 metr yn y man culaf
Giât Mochyn: Ceir un giât mochyn wrth fynedfa'r llwybr o'r ardd fotaneg.
Ceir giât o'r llwybr i'r ffordd wrth i chi ddod i mewn i’r Felinheli.
Rhwystrau eraill — Mae grid gwartheg a giât fetel addurnedig gul (tua 1 metr o led) ym mhen arall y llwybr ar Stad y Faenol. Efallai y bydd hyn yn golygu y bydd angen i rai ymwelwyr droi yn ôl yn y fan hon.
Ar gyfer llywio â lloeren defnyddiwch Gardd Fotaneg Treborth, Bangor, LL57 2RX
Cludiant Cyhoeddus: Ewch i Traveline Cymru i gynllunio eich taith.
Parcio: Mae lleoedd parcio yn gyfyngedig gyda dau fae anabl wrth fynedfa Gardd Fotaneg Treborth. Mae nifer o leoedd parcio i'r anabl ym mhen Felinheli o'r llwybr ar hyd Ffordd y Traeth.
Toiledau: Nid oes toiledau hygyrch yng Ngardd Fotaneg Treborth ar hyn o bryd. Ceir toiledau yn archfarchnad Waitrose Porthaethwy (dros y bont ar Ynys Môn) ac yn yr Antelope Inn ar ochr Treborth i Bont y Borth. Ar ben arall y llwybr ceir toiledau hygyrch yn nhref Y Felinheli ar Ffordd y Traeth.