Cwrdd â'r Swyddog Llwybr - Arfordir De Cymru ac Aber Afon Hafren
Tricia Cottnam yn disgrifio amrywiaeth aruthrol...
Nid cerdded yw’r unig beth y gallwch ei wneud. Yn ogystal â’r llu o gyfleoedd i gerdded y soniwn amdanynt yn yr adran Crwydro Llwybr yr Arfordir, mae llawer o bethau eraill i’w gweld a’u gwneud ar hyd y Llwybr
Cymerwch gip yma i chi gael gweld pam y mae hwn yn lle mor ardderchog i dreulio amser yn yr awyr agored a pha mor hawdd yw defnyddio Llwybr yr Arfordir yn eich bywyd bob dydd neu ar eich gwyliau.
Dyfarnwyd statws Arfordir Treftadaeth i’r arfordir trawiadol yma yn 1972, ac mae’n gyfle i weld clogwyni mawreddog, traethau euraid a childraethau hardd.
Dyma gynefin pwysig i adar sy’n dod i’r wlad i dreulio’r gaeaf, ac mae’n gyfle gwych i weld ymwelwyr rheolaidd ac ambell un annisgwyl.
Mae’r castell yma yn nhref Cas-gwent, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac mae’r castell mewn cyflwr arbennig o dda. (Cas-gwent yw man cychwyn Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa hefyd.)
Gan fod y llwybr yn mynd drwy galon ddiwylliannol fywiog prifddinas Cymru, manteisiwch ar y cyfle i’w harchwilio!
Mae gan y saith awdurdod lleol sydd ar arfordir deheuol Cymru gyfoeth o wybodaeth ychwanegol i’ch helpu i gynllunio eich antur nesaf, cofiwch holi os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’ch ymweliad. Gallwch ymweld â nhw isod: