Cludiant cyhoeddus - Arfordir Eryri a Cheredigion
Mae’n hawdd cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru drwy...
Nigel Nicholas yn egluro pam y mae’r rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru yn arbennig iddo
Helo, Nigel Nicholas ydw i, a fi sy’n gyfrifol am Lwybr Arfordir Cymru rhwng Machynlleth ag Aberteifi, yn ogystal ag adran o Fae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr. Rwyf hefyd yn cydweithio â Rhys Roberts, gan ei fod yntau hefyd yn gyfrifol am ran o Lwybr Arfordir Eryri a Cheredigion.
Ces fy magu ychydig filltiroedd o’r môr yn Sir Benfro, gan dreulio fy ieuenctid yn crwydro hyd a lled yr ardal. Rwyf bellach yn byw ar arfordir Ceredigion.
Gall gweithio ar lwybr yr arfordir fod yn anodd ar brydiau, ac mae’r tywydd gwlyb ac erydiad y clogwyni o hyd yn herio. Rydym wastad yn chwilio am gyfleoedd i wella’r llwybrau i bawb, ac yn benodol, i ail-osod ambell i adran sydd ar briffyrdd.
Mae gwaith yn yr awyr agored wastad wedi fy nenu, a dyna arweiniodd ataf yn gweithio fel un o geidwad tymhorol Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, a threulio 15 mlynedd yn rheoli a datblygu Llwybr Arfordir Ceredigion. Pan oeddwn yn gweithio gyda’r Parc Cenedlaethol, dysgais werthfawrogi arfordir anhygoel Sir Benfro.
Rwyf bellach yn falch iawn o gael bod yn rhan o’r tîm sy’n rheoli Llwybr Arfordir Cymru. Ces fy nenu gan y cyfle i fod yn rhan o dîm sy’n gyfrifol am un o adnoddau gwyrdd gorau Cymru, a chael helpu i warchod y rhyfeddod naturiol er budd cenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r arfordir o gwmpas Llangrannog ac Ynys Lochtyn yn agos iawn at fy nghalon. Fel miloedd o blant ysgol, bues innau hefyd yn cerdded hyd y clogwyni wrth ymweld â gwersyll yr Urdd yn Llangrannog. Yno gwelais hebog tramor am y tro cyntaf, ynghyd â brain coesgoch, a llamhidyddion. Mae’r dirwedd anhygoel, a charreg Bica, a’r golygfeydd o Fae Ceredigion, oll yn odidog.
Rwyf hefyd yn caru arfordir creigiog gogledd Sir Benfro, gyda’i daeareg ddifyr a’i chlogwyni anghysbell. Mae clogwynni Wharley Point ger Llansteffan hefyd yn fan gwych i werthfawrogi Bae Caerfyrddin, ac mae yno olygfeydd gwych o Ynys Bŷr hyd at Benrhyn Gŵyr.
Yr hyn sy’n wych am y llwybr yw’r amrywiaeth a geir ar ei hyd. Rwy’n adnabod arfordir Ceredigion a Sir Benfro’n dda iawn, ac yn awr rwy’n ymgyfarwyddo ag adran Caerfyrddin o’r llwybr. Yn araf bach rwy’n teithio hyd arfordir Cymru gyfan, ac yn darganfod cymaint o bethau anhygoel.
Datblygiad Llwybr Arfordir Ceredigion. Crëwyd dros 15 milltir o lwybrau cyhoeddus newydd, a hynny o ganlyniad i gydweithrediad tirfeddianwyr a gwaith gwych gwirfoddolwyr- yn aml mewn amodau anodd. Roedd yr adran rhwng Cwmtydu a Llangrannog yn enwedig yn heriol iawn, a bu rhaid cloddio’r llwybr hyd allt serth gyda golygfeydd anhygoel.
Gallwch gysylltu â mi gydag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau sy’n ymwneud â Llwybr Arfordir Cymru drwy glicio ar Cysylltu â ni i anfon e-bost atom.