Teithiau cerdded i archwilio'r ardal - Arfordir Gogledd Cymru

Mae na dros 800 milltir o lwybrau i’w troedio, dyma rai o’n ffefrynnau ni, a’n hargymhellion ar sut i weld y gorau o’r arfordir

Llwybr Arfordir Cymru

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Ein huchafbwyntiau

Castell y Fflint ac Aber Afon Dyfrdwy

Castell y Fflint oedd y castell cyntaf o nifer i Edward I eu codi yng Nghymru. Mae hwn yn llecyn hyfryd a gallwch gerdded ar hyd aber afon Dyfrdwy lle mae miloedd o rydyddion (adar hirgoes) yn byw yn y gaeaf. Darganfod mwy am y daith Castell y Fflint.

Blwyddyn Antur 2016 Trefynnon a'r Fflint

Mae’r daith gerdded 8 milltir gymedrol hon yn antur fach sy’n camu’n ôl i hanes Cymru – hanes sy’n cynnwys diwydiant, castell a draig!

Mae’r daith gerdded 8 milltir gymedrol hon yn antur fach sy’n camu’n ôl i hanes Cymru – hanes sy’n cynnwys diwydiant, castell a draig!

Adar di-rif!

Bydd pawb sy’n gwirioni ar adar wrth eu bodd gyda rhan hon y llwybr. Aber Afon Dyfrdwy, sy’n croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr, yw un o’r lleoedd gorau ym Mhrydain i weld miloedd o adar dŵr ac adar hirgoes. Paradwys yn ddi-os i bawb sy’n hoff o adar.

Ewch am dro i oleudy’r Parlwr Du ar Draeth Talacre a cheisiwch weld ambell aderyn tymhorol, fel cambigau (symbol yr RSPB), piod môr ac adar hirgoes yn clwydo.

Efallai y byddwch yn adnabod y goleudy, oherwydd ymddangosodd mewn hysbyseb paent lle y gwelwyd ci Dulux yn rhedeg ar draws y traeth.

Nodyn i wylwyr adar o bob oed……cadwch eich binocwlars wrth law!

Castell Crand

Dewisodd y Brenin Edward I leoliad ei gastell cyntaf yng Nghymru yn ofalus iawn, mewn ymdrech i dawelu gwrthryfel y Cymry yn erbyn y Saeson.

Mae Castell y Fflint, y dechreuwyd ei adeiladu yn 1277 ac y cymerwyd mwy na naw mlynedd i’w gwblhau, yn gorwedd ar benrhyn creigiog ar gorsydd Aber Afon Dyfrdwy.

Cewch ryfeddu at y tyrau trawiadol, sy’n lleoedd gwych i edrych dros Aber Afon Dyfrdwy, yn ogystal â’r gwaith maen graenus o amgylch y castell i gyd.

Beth am fynd yn ôl mewn amser i’r ddeuddegfed ganrif a dychmygu eich bod yn wyliwr tŵr sy’n chwilio am elynion a all gyrraedd ar dir, awyr neu fôr…..cofiwch gadw eich bwa a’ch saeth wrth law!

Adnoddau

  • Lawrlwythwch deithlyfrau ‘Weatherman Walking’ oddi ar wefan y BBC (maent yn cynnwys mapiau a mannau o ddiddordeb yn.pdf) 
  • I gael mwy o wybodaeth am yr adar y gellir eu gweld yn Y Parlwr Du, edrychwch ar wefan yr RSPB Cymru.
  • I gael mwy o wybodaeth am Gastell y Fflint, edrychwch ar wefan CADW

Teithiau cerdded byr

Trwyn y Fuwch (Little Orme)
0.5 milltir / 0.8 km

Llwybr a gafodd wyneb newydd yn ddiweddar ac sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae’r llwybr yn mynd â chi i Borth Dyniewaid (Angel Bay) sy’n lle gwych i wylio adar a morloi. Os ydych chi’n barod am fwy o her, ewch ymlaen dros Drwyn y Fuwch i gyfeiriad Llandudno.

Llwybrau Copa’r Gogarth
1–1.5 milltir / 1.6 - 2.4 km

Mwynhewch y golygfeydd ardderchog o Ben y Gogarth dros dref hardd Llandudno ac ymlaen at Afon Menai ac Ynys Môn. Mae’r llwybrau’n serth mewn mannau ac os byddai’n well gennych weld y golygfeydd heb orfod cerdded i fyny, gallwch ddefnyddio gwasanaethau’r dramffordd neu’r ceir cebl i fynd i’r copa. Mae’r holl wahanol flodau sy’n tyfu ar Ben y Gogarth yn cynnal y cymylau o löynnod byw sydd i’w gweld yn yr haf. A chwiliwch hefyd am y geifr sy’n byw yno. Darganfod mwy am y daith gerdded yma: Llwybrau Copa'r Gogarth.

Mynydd y Dref, Conwy
3 milltir / 4.8 km

Un o ddewisiadau Llwybr yr Arfordir yw troi i mewn i’r tir i archwilio’r mynydd i’r gorllewin i dref Conwy. Mae rhwydwaith da o lwybrau’n cynnig digon o gyfle i chi archwilio’r mynydd wrth eich pwysau. Mae’r bryn yn troi’n borffor yn yr haf dan garped o rug. Ac mae golygfeydd gwych o’r copa lle mae safle bryngaer o’r Oes Haearn.

Llanfairfechan i Forfa Madryn
3 milltir / 4.8 km

Gallwch gerdded mewn cylch ar hyd promenâd Llanfairfechan i gyfeiriad Gwarchodfa Natur Leol Morfa Madryn. Mae’n lle ardderchog i weld piod y môr, gylfinirod a mathau eraill o adar y dŵr a rhydyddion. Darganfod mwy am y daith gerdded yma: Llanfairfechan i Forfa Madryn (Llwbyr 1)

Traeth Talacre i Brestatyn (drwy Dwyni Gronant)
4.5 milltir / 7 km

Archwiliwch y rhan hardd yma o’r arfordir sy’n cynnwys goleudy’r Parlwr Du. Byddwch yn teithio ar hyd traeth poblogaidd Talacre drwy gyfoeth y cynefinoedd yn y twyni cyn cyrraedd Prestatyn lle mae traethau rhyfeddol a holl bleserau traddodiadol byd glan y môr. (Bws)

Y Rhyl i Draeth Pensarn
5 milltir / 8 km

Mwynhewch hwyl a sbri byd glan y môr yn nhref y Rhyl gyda’i thraethau tywodlyd sydd bron yn ddi-ben-draw, cyn mynd ymlaen ar hyd yr arfordir i Bensarn, ger Abergele. Byddwch yn teithio drwy Fae Cinmel sy’n fan poblogaidd i wneud chwaraeon dŵr. (Trên neu Fws)

Teithiau cerdded

Bae Colwyn i Landudno ar hyd Trwyn y Fuwch
5.5 milltir / 9 km

Taith gerdded egnïol a phoblogaidd ar lannau’r môr sy’n cynnig cyfleoedd gwych yn Nhrwyn y Fuwch i weld bywyd gwyllt. Ewch ymlaen i Landudno i ddarganfod cyfareddau’r dref wyliau hardd yma o oes Fictoria. (Trên neu Fws)

Aber Afon Dyfrdwy – Castell y Fflint i Abaty Dinas Basing
6milltir / 10 km

Taith gerdded wych ar hyd aber Afon Dyfrdwy. Mae’r daith yn cychwyn ger Castell y Fflint, sef y castell cyntaf a adeiladwyd yng Nghymru ar ôl i’r Brenin Edward I oresgyn y wlad yn y drydedd ganrif ar ddeg, ac yn gorffen ger Abaty Dinas Basing, abaty o’r deuddegfed ganrif (tua hanner milltir i mewn i’r tir o Lwybr yr Arfordir ym Maes-glas). (Bws)

Llanfairfechan i Ddwygyfylchi
7 milltir / 11.2 km

Cyfle i gerdded ar lethrau isaf y Carneddau gan fwynhau’r golygfeydd trawiadol o’r Wyddfa, y Gogarth a thros afon Menai i Ynys Môn. 

Tro o gwmpas y Gogarth
13.8 milltir / 14.5 km

Cewch gerdded o gwmpas y Gogarth gan fwynhau golygfeydd gwych o arfordir gogledd Cymru i gyd. Byddwch yn pasio hen gastell Deganwy. Darganfod mwy am Teithiau cerdded y Gogarth eraill.

Cylchdaith y Rhyl
14.3 milltir / 23 km

Cychwyn wrth Ganolfan Bywyd y Môr yn y Rhyl a cherdded ar hyd yr arfordir i gyfeiriad Prestatyn, lle mae tri thraeth – Traeth y Ffrith, Traeth Barkby a’r Traeth Canol. Troi i mewn i’r tir i gyfeiriad Alltmelyd a thua’r rhaeadrau ger Dyserth. Dychwelyd i’r arfordir a’r Rhyl ar lan afon Clwyd.