Cyflwyno ein llysgenhadon cyfryngau cymdeithasol newydd!
Ein hoff ddylanwadwyr a chrewyr cynnwys am ysbrydoliaeth
Canllaw ymarferol yn cynnig cynghorion defnyddiol gan Vivienne Crow
Vivienne Crow
Mae Vivienne Crow yn awdur a ffotograffydd awyr agored llawrydd sydd wedi ennill gwobrau. Mae hi wedi ysgrifennu dros 20 o deithlyfrau, gan gynnwys dau o’r llyfrau swyddogol ar Lwybr Arfordir Cymru.
Gallai’r syniad o symud ymlaen i lety newydd bob diwrnod atal rhai pobl rhag cerdded Llwybr Arfordir Cymru, ond mae defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rhoi’r posibilrwydd o gwblhau darnau hir ohono o un neu ddau fan cychwyn yn unig. Rwyf wedi gwneud hyn fy hun ar rai adrannau o’r llwybr, gan gynnwys yng Ngheredigion, ac mae wedi bod yn bleserus ac yn rhyfeddol o hawdd bob amser. Roedd bws T5 o Aberystwyth i Aberteifi yn allweddol wrth wneud hyn, gyda bws 512 (a threnau) yn darparu cysylltiadau â rhan ogleddol y llwybr.
Mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn rhedeg am 60 milltir (96km) o aber Dyfi yn y Gogledd i Aberteifi yn y de – rhan ganolog yr arfordir sy’n cofleidio’r enfawr Fae Ceredigion. Byddwn i’n argymell rhannu’r adran hon o Lwybr Arfordir Cymru i o leiaf pum diwrnod o gerdded: Ynyslas neu Borth i Aberystwyth, Aberystwyth i Lanon, Llanon i Geinewydd, Ceinewydd i Aberporth, ac Aberporth i Aberteifi.
Oherwydd ei chysylltiadau trafnidiaeth dda a’r ystod eang o lety sydd ar gael, efallai yr hoffech chi ystyried aros yn Aberystwyth os ydych yn bwriadu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gwblhau’r rhan hon o’r llwybr. Dyna’n union a wnes i, gan gyrraedd y dref brifysgol fywiog ar dren o Wolverhampton. Mae rhywbeth ar gael yma ar gyfer y mwyafrif o gyllidebau, gan gynnwys gwestai moethus, gwestai rhad, hostel, tai gwesteion, llety gwely a brecwast o bob maint a siâp, byncws, bythynnod hunan-arlwyo, fflatiau ar lan y môr a gwersyllfaoedd. Ac, ar ddiwedd diwrnod hir o gerdded, canfûm fod yna ddigon o fwytai a thafarndai i allu ymlacio ac ail-ennill egni.
Heblaw am y deuddydd cyntaf, roedd aros yn Aberystwyth er mwyn cwblhau’r rhan Ceredigion o’r llwybr yn golygu dal bysiau ar ddechrau a diwedd pob diwrnod.
Gyda’r gwasanaeth T5 yn dechrau’n fuan ac yn gorffen yn hwyr yn y prynhawn, bob dydd heblaw am ddydd Sul, mae hyn yn berffaith gyrraeddadwy. I wirio amseroedd, defnyddiwch y cynlluniwr taith ar wefan Traveline Cymru.
Mae yna hefyd opsiwn i rannu’r llwybr mewn i fwy na pum diwrnod gan dorri’r camau yn Llanrhystud, Aberarth ac Aberaeron, pob un ohonynt yn cael eu gwasanaethu gan y T5. Mae’r daith sengl hiraf, Aberystwyth i Aberteifi, yn awr a 48 munud.
Mwynheais y teithiau bws hir yn fawr – roeddent yn rhoi’r cyfle i mi fwynhau’r golygfeydd o bersbectif gwahanol ac, ar y teithiau yn ôl, i fyfyrio ar y diwrnod roeddwn i newydd ei gael – ond os fyddai’n well gennych i beidio treulio cymaint o amser ar y bysiau, gallwch ddewis dau neu dri man cychwyn.
Mae opsiynau llety da yn Aberaeron, y trefi glan môr o Gei Newydd ac Aberporth, ac yn Aberteifi, y man cychwyn ar gyfer rhan nesaf Llwybr Arfordir Cymru – trwy Sir Benfro. Rhwng Aberteifi a Chei Newydd, yn ogystal â’r gwasanaeth T5, mae yna opsiwn o ddefnyddio’r gwasanaeth bws pentref arfordirol Cardi Bach (rhif 552) sy’n rhedeg drwy gydol y flwyddyn, gan alw yn Aberporth, Tresaith, Llangrannog a Chwmtydu.
Mae’r daith sydd wedi’i hawgrymu isod yn seiliedig ar bum diwrnod o gerdded, gan aros bob noson yn Aberystwyth.
Mae angen i buryddion sy’n cerdded Llwybr Arfordir Ceredigion, fel y gwnes i, ddal bws 512 i Ynyslas a dechrau eu diwrnod yng nghanolfan ymwelwyr Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi yn y twyni ar ochr ddeheuol y Dyfi.
Ar y llaw arall, mae Llwybr Arfordir Cymru swyddogol yn ymuno yn Y Borth, hefyd ar lwybr bws 512, neu daith drên 15-munud o Aberystwyth. (Mae dechrau’r diwrnod yn Y Borth yn torri cyfanswm y pellter i 6 milltir/10km).
Y tu hwnt i’r Borth, mae llwybr yr arfordir yn ymestyn ar draws brig y clogwyni garw, gan roi blas i’r cerddwyr o beth sydd i ddod wrth i’r golygfeydd tua’r de ddod i’r golwg. Daw’r daith gerdded ar y clogwyni i ben yng Nghraig-glais, cartref rheilffordd halio enwog Aberystwyth a’i chamera obscura.
Mae yna lawer i’w weld ar y daith gerdded allan o Aberystwyth. Hon, wedi’r cyfan, yw’r dref fwyaf ym Mae Ceredigion, ac un sydd â hanes hir. Yma mae’r pier hynaf yng Nghymru, y promenâd Fictoraidd milltir o hyd ac adfeilion y castell o’r 13eg ganrif.
Pan lwyddais i rwygo fy hun i ffwrdd o’r dref, fe wnes i ddarganfod bod llwybr yr arfordir yn ymgymryd naws gynyddol anghysbell, ynysig wrth iddo ymlwybro ar hyd clogwyni, ar draws tir fferm donnog a thros rostir.
Mae llwybrau hynafol wedi creu rhigolau yn y llethrau glaswelltog wrth iddynt fynd heibio ffermydd unigol ac adeiladau adfeiliedig ar y ffordd i Lanrhystud a Llanon, y ddau’n cael eu gwasanaethu gan fws T5 yn ôl i Aberystwyth.
Ar ôl dal y bws i Lanon, mae yna ddechrau gweddol dyner i ddiwrnod tri, yn rhannol ar lwybr balconi sydd ar silff lydan ar ochr y bryn. Roeddwn i wedi amseru fy nhaith fel y gallwn fwynhau fy nghinio yn y swynol Aberaeron, ble mae adeiladau Georgaidd lliwgar yn treulio ar hyd ochr yr harbwr. Byddwn i’n argymhell y byrgyrs yn Y Seler. Y tu hwnt i hyn, mae’r daith yn dilyn llwybrau ar ben clogwyni, gan fynd i mewn ac allan o geunentydd cudd a mynd trwy goetir cysgodol.
Pan fydd y llanw’n isel, gallwch gerdded yr ychydig o filltiroedd olaf i mewn i Gei Newydd ar y traeth – neu defnyddiwch y llwybr llanw uchel i fynd heibio safle’r “caban ar ymyl y clogwyn” ble fu’r bardd Dylan Thomas yn byw gyda’i deulu yng nghanol y 1940au.
O Aberystwyth, mae’r bws yn ôl i Gei Newydd yn cymryd tuag awr – digon o amser i chi baratoi ar gyfer y diwrnod anoddaf a’r gorau, yn fy marn i, o’r adran hon o Lwybr Arfordir Cymru. Mae’r llwybr yn donnog i ddweud y lleiaf.
Mae clogwyni uchel, agored i’r gwynt yn sefyll uwchlaw traethau diarffordd a cholofnau môr alltraeth garw, a’r uchafbwynt yw’r llwybr clogwyn agored, dramatig i’r de o Gwmtydu. (Mae yna opsiwn mewndirol pan fo tywydd gwael ar gael i ddioddefwyr pendro.) Nid yw’n waith caled i gyd, fodd bynnag; mae’r tafarndai a chaffis yng Nghwmtydu, Llangrannog, Penbryn a Thresaith yn darparu cyfleoedd i ymlacio am awr neu ddwy. Ond peidiwch ag anghofio am y bws!
Mae taith gerdded hir arall yn disgwyl, er nad yw’r gwaith dringo mor greulon â’r diwrnod blaenorol. Fel rydych chi’n gwneud eich ffordd ar draws glogwyni garw sydd wedi’u carpedu â blodau gwyllt yn y gwanwyn a’r haf, cadwch lygad allan am fywyd gwyllt, gan gynnwys dolffiniaid, morloi llwyd, brain coesgoch, hebogiaid tramor ac amrywiaeth o adar y môr.
I mi, un o uchafbwyntiau’r rhan hon oedd y traeth prydferth a’r capel anwes canoloesol ym Mwnt. Ar ôl hyn, dim ond ychydig o filltiroedd ysgafn sydd i mewn i Aberteifi ar gyfer y daith fws hir yn ôl i Aberystwyth – a chyfle i ail-ymweld â llwybr yr arfordir rydych newydd dreulio sawl diwrnod yn cerdded.