870 Milltir o Heicio Holliach
Pump rheswm da pam fod cerdded yn hwb i gorff a meddwl iach
Cerdded yw un o'r ffyrdd hawsaf o ymarfer corff ac mae'n cynnig buddiannau seicolegol enfawr.
Mae’r effaith bositif y caiff cerdded ar y meddwl, y corff a’r enaid yn ei wneud yn ffordd wych o ddianc rhag pwysau bywyd bob dydd a gwella eich iechyd corfforol a meddyliol.
Mae cerdded yn eich helpu i fyw'n hirach ac mae'n goresgyn sawl cyflwr iechyd fel clefyd y siwgr, iselder a gorbryder. Ac mewn cymdeithas sydd ag obsesiwn â sgriniau, ni fu erioed yn bwysicach i glustnodi amser ar eich cyfer chi,
Os mai eich adduned Blwyddyn Newydd yw gwella eich lles personol, ewch i grwydro 870 milltir o lwybrau cerdded Llwybr Arfordir Cymru er mwyn dianc yn llwyr i ailfywiogi'r synhwyrau a theimlo’n hapusach.
Dyma pump rheswm pam fod cerdded yn hwb i gorff a meddwl iach.
1. Mae cerdded yn goresgyn straen ac yn ailffocysu’r meddwl
Pan fo gorbryder a phwysau bywyd modern yn drech na chi, gall mynd am dro hir fod yn beth gwych i’w wneud er mwyn ailffocysu’r meddwl. Mae gan Lwybr Arfordir Cymru filltiroedd a milltiroedd o lwybrau cerdded hardd, hamddenol ger y cefnfor llonydd. Mae doctoriaid yn cytuno y gall bod wrth y môr gael effaith bositif ar iechyd meddwl
Cyngor: Amroth i Bentywyn (de Cymru) - pellter: 5.5 milltir / 8.8 km
Mae Arfordir Sir Gaerfyrddin yn drysor cudd, ac mae’n gartref i gildraethau cyfrinachol a milltiroedd o draeth euraidd. Ewch ar daith o Amroth i Bentywyn er mwyn ailfywiogi’r synhwyrau ac anadlu awyr iach arfordirol.
2. Ymarfer corff ardrawiad isel i bawb, am ddim
Mae cerdded yn gwneud i’ch calon bwmpio, mae’n cryfhau cyhyrau ac yn gwella stamina. Ac mae’n rhad ac am ddim! Mae hyd yn oed un daith gerdded fer ddyddiol yn weithgaredd corfforol cymedrol sy’n cyfrannu at hybu eich iechyd a chyflawni’r canllawiau a osodwyd gan Brif Swyddog Meddygol y DU.
Cyngor: Llanmadoc i Rosili (de Cymru) – pellter: 6.75 milltir / 10.75 km
Diffoddwch y sgrin a gwyliwch y golygfeydd arfordirol trawiadol sy’n cynnwys Bae enwog Rhosili, a cherdded pen gorllewinol y Gŵyr gan basio Bae Broughton ac ynys Burry Holms.
3. Mae awyr ffres y môr yn dda i’r corff
Fel yr eglurodd Sefydliad yr Ysgyfaint, y rheswm bod awyr ffres y môr mor dda inni yw ei fod yn cynnwys diferion bychain o ddŵr sydd wedi ei gyfoethogi â halen, ïodin, magnesiwm ac elfennau hybrin. Mae hefyd yn llawn ionau negyddol, sy’n helpu ein cyrff i amsugno ocsigen, mae hynny’n golygu y gall hyd yn oed taith gerdded fer ar hyd yr arfordir gael effaith bositif enfawr ar eich iechyd.
Cyngor: Trefor i Nefyn (gogledd-orllewin Cymru) - pellter: 9.5 milltir / 15 km
Cychwynnwch ym mhentref glan môr cudd Trefor a dilynwch y llwybr gan fwynhau golygfeydd godidog o Benrhyn Llŷn gan gynnwys tri chopa mynydd mawreddog Yr Eifl.
4. Dianc o fywyd modern
Mae bywyd dinesig modern yn mynnu ein sylw parhaus, gan orsymbylu ein synhwyrau bob munud. Mae cerdded yr arfordir yn eich helpu i ddatgysylltu mewn amgylchedd hanesyddol, ac amsugno’r tawelwch a gwir werthfawrogi prydferthwch natur.
Cyngor: Aberystwyth i Lanrhystud (Canolbarth Cymru) – pellter: 10.5 milltir / 17 km
Dewch i ddarganfod golygfeydd arfordirol trawiadol a bywyd gwyllt prin, gan gynnwys coetiroedd derw crog Clogwyni Penderi, ar un o rannau lleiaf poblogaidd yr Arfordir Treftadaeth.
5. Cerddwch at noson dda o gwsg
Mae cerdded yr arfordir yn gwella ansawdd cwsg, ac mae astudiaethau’n awgrymu y gall arwain at ryw awr ychwanegol o gwsg. Dangosodd ymchwil gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fuddiannau iachaol cerdded yr arfordir, gan ddarganfod bod pobl yn cysgu’n hirach ar ôl cerdded ar lan y môr, o’u cymharu â phobl sy’n mynd am dro mewndirol o’r un hyd.
Cyngor: Trefdraeth i Abergwaun (de-orllewin Cymru) – pellter: 12 milltir / 19.3 km
Cerddwch ar hyd clogwyni agored a gwerthfawrogi arfordir eiconig Sir Benfro, ble mae Trefdraeth yn un o’r unig ardaloedd y gallwch chi gerdded o’r môr i’r copa.